- Amdanom
- Sectorau
- Cleiantau A-Z
- Cyfryngau
- Gyrfaoedd
- Cysylltwch
Aelodau: Ysgolion Sycol
Mynediad >
PodcastsGwrandewch ar Podcasts Sycol.
Polisi Preifatrwydd
Mae'r dudalen hon yn egluro sut y byddwn yn defnyddio ac yn parchu data y byddwn yn ei gasglu gennych
Y Ddeddf Diogelu Data
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd cyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti neu Adran o'r Llywodraeth oni rowch ganiatâd i ni i wneud hynny.
Pa wybodaeth a gasglwn?
Casglwn ddau fath o wybodaeth gan ymwelwyr â safle Sycol Cyf.: adborth (trwy e-byst i'r tîm golygyddol) a gwybodaeth sy'n ymwneud â defnyddio'r safle, o briwsion ('cookies') a ffeiliau cofnodi.
1 Adborth
Rydym yn croesawu eich syniadau a'ch sylwadau.
i) Sylwadau a chwestiynau
Efallai y bydd angen i ni gysylltu ag Adrannau eraill o'r Llywodraeth er mwyn ateb cwestiynau a anfonir atom. Os yw'ch cwestiwn yn un technegol, efallai y bydd angen i ni ei drosglwyddo i'n cyflenwyr technegol. Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol wrth ddelio â'ch ymholiad, os na fydd gennym eich caniatâd i wneud hynny.
2 Gwybodaeth am ddefnyddio'r wefan
i) Briwsion
Darnau o ddata yw briwsion a grëir pan fyddwch yn ymweld â gwefan; maent yn cael eu storio ar eich cyfrifiadur. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch, ac nid oes modd eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.
Gallwch osod eich cyfrifiadur i beidio â derbyn briwsion, ond gall hyn greu problemau i chi wrth ddefnyddio'r safle.
Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cysylltu â safle arall?
Mae Sycol Cyf. yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill ar y we, sy'n perthyn i Adrannau 'r Llywodraeth a sefydliadau eraill.
Dim ond i'n gwefan ni y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, felly dylech bob amser fod yn ymwybodol pan fyddwch yn symud i wefan arall, a dylech ddarllen datganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol a roddwyd i ni i unrhyw wefan arall.
Os ydych yn dymuno gweld ein cofnodion o unrhyw ohebiaeth yr ydych wedi'i hanfon atom, neu os oes gennych ymholiad neu gŵyn ynglŷn â'r polisi preifatrwydd hwn neu'r wefan, gallwch gysylltu â ni drwy ddilyn y ddolen 'Cysylltwch' ar dop y sgrin
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn diweddaru'r fersiwn ar y dudalen hon. Gallwch ymweld â'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r wybodaeth a gesglir gennym, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu ag unrhyw un arall.
Eiddo deallusol a Hawlfraint Sycol Cyf.
Os ydych yn dymuno copïo neu ddefnyddio logo Sycol Cyf., mae'n rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan y perchennog hawlfraint ymlaen llaw. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Sycol Cyf. at Dîm Marchnata Sycol Cyf., gallwch gysylltu â ni drwy ddilyn y ddolen 'Cysylltwch' ar dop y sgrin.
Dywedwch wrthym sut a pham yr ydych yn dymuno defnyddio ein logos. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt: enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.
Diogelir y deunydd a ddangosir ar y safle hwn o dan hawlfraint Sycol Cyf. oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan Hawlfraint Sycol Cyf. am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
Pan gaiff unrhyw eitemau Hawlfraint Sycol Cyf. ar y wefan hon eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, mae'n rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.
Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan Hawlfraint Sycol Cyf. yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon a nodir fel deunydd hawlfraint trydydd parti. Mae’n rhaid cael yr awdurdod i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.
Telerau ac amodau
Mae defnyddio gwefan Sycol Cyf. yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:
Mae Sycol Cyf. yn Gorff Cyhoeddus a noddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Drwy ymweld â'n gwefan rydych chi fel defnyddiwr ('Chi') yn derbyn ein telerau ac amodau.
Defnyddio gwefan Sycol Cyf.
Cynhelir gwefan Sycol Cyf. er mwyn i chi’i defnyddio ac edrych arni. Mae cael mynediad i, a defnyddio, gwefan Sycol Cyf. yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Maent yn weithredol o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio’r wefan am y tro cyntaf.
Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn dull nad yw'n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar neu’n atal unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau'r wefan hon.
Mae cyfyngu neu atal o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu beri gofid neu drafferth i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys anweddus neu sarhaus neu ymyrryd ar y llif arferol o ddeialog o fewn y safle hwn.
Fe'ch gwaherddir rhag cyhoeddi neu drosglwyddo unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, difenwol, anweddus, sarhaus neu gywilyddus, neu unrhyw ddeunydd sy'n golygu neu sy'n annog ymddygiad yr ystyrir iddo fod yn drosedd, sy’n debygol o achosi atebolrwydd sifil, neu sydd, fel arall, yn torri unrhyw gyfraith.
Byddwn yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi'r gyfraith neu orchymyn llys sy'n gofyn i ni neu sy'n rhoi cyfarwyddyd i ni ddatgelu enw unrhyw un sy'n cyhoeddi gwybodaeth neu ddeunydd o'r fath ar safle gwe Sycol Cyf..
Defnyddir yr wybodaeth a gesglir gennym at ddibenion adolygiad mewnol, i wella cynnwys gwefan Sycol Cyf., i addasu cynnwys a/neu gynllun Sycol Cyf. ar gyfer pob defnyddiwr unigol, i hysbysu defnyddwyr o’r diweddariadau i safle gwe Sycol Cyf., ac fe’i defnyddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gysylltu â defnyddwyr at ddibenion marchnata ac ni fydd yn cael ei rhannu gydag unrhyw sefydliadau eraill at ddibenion masnachol.
Cysylltu â Sycol Cyf.
Rhowch wybod i ni os ydych yn dymuno cysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar wefan y Bwrdd drwy ddilyn y ddolen 'Cysylltwch' ar dop y sgrin.
Nid ydym yn gwrthwynebu eich dymuniad i gysylltu'n uniongyrchol â'r wybodaeth a ddangosir ar ein gwefan. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan; mae'n rhaid i dudalennau Sycol Cyf. lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr.
Ymwadiad
Darperir gwefan Sycol Cyf. a'r deunydd sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau’r Llywodraeth (neu sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti) 'fel ag y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth neu ardystiad a heb warant o unrhyw fath p'un a'i mynegir neu'i awgrymir, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben arbennig, peidio â thresmasu, cysondeb, diogelwch a chywirdeb.
Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn rhydd rhag ymyrraeth neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, ac y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei bod ar gael, yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau.
Ni fyddwn yn atebol dros golled neu ddifrod ar unrhyw gyfrif, yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod canlyniadol neu anuniongyrchol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnyddio neu colli'r gallu i ddefnyddio, data neu elw sy'n deillio o neu sy'n gysylltiedig â defnyddio gwefan Sycol Cyf. neu sy'n deillio o hynny.
Rheolir a dehonglir y telerau ac amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o dan y telerau ac amodau hyn yn agored i awdurdod unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Cysylltiadau â gwefannau allanol
Bydd cysylltiadau a gynhwysir yng ngwefan Sycol Cyf. yn arwain at wefannau eraill nad ydynt o dan ein rheolaeth. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig.
Ni ddylid ystyried y broses o restru a chysylltu gwefannau fel ardystiad o unrhyw fath ac ni dderbyniwn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â chynnwys. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.
Diogelu rhag firysau
Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lwythir o'r Rhyngrwyd.
Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i'ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunydd a ddaw o'r wefan hon.
Polisi preifatrwydd
Mae ein polisi preifatrwydd yn egluro sut yr ydym yn diogelu a pharchu'r data a gasglwn gennych.
Gallwn adolygu'r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg yn ddirybudd. Eich cyfrifoldeb chi yw edrych ar y telerau ac amodau yn rheolaidd rhag ofn bod unrhyw newidiadau. Rydych yn derbyn y newid drwy ddefnyddio gwefan Sycol Cyf. yn barhaus ar ôl i newid gael ei wneud.