- Amdanom
- Sectorau
- Cleiantau A-Z
- Cyfryngau
- Gyrfaoedd
- Cysylltwch
Aelodau: Ysgolion Sycol
Mynediad >Amdanom > Cymuned & Trefn Rheoli > Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Sycol Cyf. yn cydnabod manteision gweithredu Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Nod y polisi yw sicrhau y caiff pob cyflogai, darpar gyflogai, gwirfoddolwr ac ymwelydd ei drin mewn modd teg a chyfartal, heb ystyried ei oedran, anabledd, statws priodasol, cyfrifoldebau teuluol, crefydd neu gred, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd na chyfeiriadedd rhywiol.
Mae Sycol Cyf. yn cynnwys ein contractwyr, defnyddwyr ein gwasanaeth a'r gymuned yn yr ymagwedd bositif hon o blaid cydraddoldeb ac amrywiaeth. Byddwn yn hyrwyddo ac yn arwain y maes o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth:
- hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- herio a dileu gwahaniaethu
- darparu gwasanaethau ymatebol a hygyrch
Nod ein Polisi yw:
- I sicrhau bod pob cyflogai yn cael cyfle cyfartal.
- I ddarparu strwythur teg o ran Polisïau a Gweithdrefnau gan gynnwys Denu a Dethol, Hyfforddiant, Polisi a Gweithdrefnau Disgyblaethol ac Aflonyddu.
- I sicrhau bod pob cyflogai yn cael mynediad cyfartal i ddyrchafiadau a chyflog cyfartal.
- I ddenu gweithlu amrywiol a defnyddio'r sgiliau, y wybodaeth a'r galluoedd sydd ar gael.
- I greu delwedd bositif ohonom fel cyflogwr a darparydd gwasanaethau.
- I wella perfformiad ac effeithlonrwydd, a llesteirio achosion disgyblaethol a chwynion rhag codi.
- Polisi dim goddefgarwch at unrhyw dorri ar ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Ymchwilir i bob achos o gamymddwyn honedig o dan ein Polisi a Gweithdrefnau Disgyblaethol.
- I gydnabod amrywiaeth trigolion Cymru ac ymwelwyr â'r wlad a'u hamrywioldeb o ran cefndir, diwylliant ac anghenion a sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu mewn modd a fydd yn cynyddu cyfranogiad gan bawb gymaint â phosib.
- I ymdrechu i symud ymaith unrhyw rwystrau at fynediad i'r gwasanaethau y byddwn yn eu darparu.
Beth fyddwn ni'n ei wneud?
Bydd Sycol Cyf. yn cynnal cydraddoldeb ac amrywiaeth:
- ym maes cyflogaeth, trwy ddatblygu polisïau fydd yn sicrhau na fydd neb yn gwahaniaethu yn annheg yn erbyn unrhyw un sy'n ceisio am swydd, unrhyw gyflogai, wirfoddolwr na hyfforddai ar sail ei ryw, ei darddiad ethnig na chenedlaethol, ei grefydd neu gred, ei oedran, galluoedd corfforol neu feddyliol, statws priodasol, hunaniaeth rywiol, cyfeiriadaeth rywiol, cefndir cymdeithasol na swyddogaeth o fewn y sefydliad.
- ym maes darparu gwasanaethau, trwy ddarparu gwasanaethau priodol, sensitif a diduedd a bod yn hygyrch i bawb.
- trwy feithrin amgylchedd gwaith cydweithredol sy'n rhydd rhag aflonyddu ac erledigaeth ac yn hyrwyddo perthynas dda rhwng staff er mwyn creu'r amodau i ddatblygu eu potensial yn llawn.
An effective approach combining the very best of Solution-focused techniques and narrative therapy approaches.
A strengths-based programme providing an effective framework and a Wellbeing structure for school-aged youngsters.
An organisation improvement programme that provides an architecture for increased organisational capacity.
Facilitators are equipped to implement the Wellbeing programme within their team or organisation - building capacity.
Because every second counts we respect time. It costs money, resources and our energy. Time is the most precious commodity.


Cyrsiau & Hyfforddiant