- Amdanom
- Sectorau
- Cleiantau A-Z
- Cyfryngau
- Gyrfaoedd
- Cysylltwch
Aelodau: Ysgolion Sycol
Mynediad >Amdanom > Cymuned & Trefn Rheoli > Iechyd a Diogelwch
Polisi Iechyd a Diogelwch
Datganiad a pholisi diogelwch Sycol Cyf. (yn unol a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gwaith 1974).
Polisi'r Sycol Cyf. yw sicrhau, cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch a lles ei holl staff yn y gwaith yn unol a'r gofynion statudol perthnasol.
O fewn y polisi cyffredinol uchod, polisi Sycol Cyf. yn benodol yw:
- darparu a chynnal systemau gwaith sy'n ddiogel ac yn rhydd o beryglon i iechyd pobl, gymaint ag y bo'n rhesymol ymarferol;
- gwneud trefniadau i sicrhau diogelwch a rhyddid rhag peryglon i iechyd mewn perthynas â defnyddio, trin, storio a chludo nwyddau a sylweddau, gymaint ag y bo'n rhesymol ymarferol;
- darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth fel y bo'n briodol i sicrhau, cymaint ag y bo'n rhesymol ymarferol, iechyd a diogelwch y bobl a gyflogir ganddi yn y gweithle;
- cynnal unrhyw le neu waith o dan reolaeth Sycol Cyf., mewn cyflwr sy'n ddiogel ac yn rhydd o beryglon i iechyd a chynnig a chynnal ffyrdd i mewn ac allan ohoni sy'n ddiogel ac yn rhydd o beryglon o'r fath, gymaint ag y bo'n rhesymol ymarferol;
- darparu a chynnal amgylchedd gwaith, sy'n rhydd o beryglon i iechyd ac yn ddigonol o ran cyfleusterau a threfniadau ar gyfer eu lles yn y gwaith, gymaint ag y bo'n rhesymol ymarferol;
- darparu'r offer amddiffynnol sydd ei angen i sicrhau iechyd a diogelwch ei staff yn y gwaith, gymaint ag y bo'n rhesymol ymarferol;
- annog staff i osod safonau uchel o ran diogelwch drwy esiampl bersonol ac i dderbyn lefel resymol o gyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain a'u cydweithwyr;
- mae'r Grŵp Polisi Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol drwy ei Gadeirydd am sicrhau gweithrediad polisi diogelwch yr Sycol Cyf. ac am gynnig cyngor ar bob mater mewn perthynas a diogelwch o fewn Sycol Cyf.;
- polisi Sycol Cyf. yw annog staff i ddilyn hyfforddiant cydnabyddedig mewn Cymorth Cyntaf;
- yn ogystal a'r uchod, mae Sycol Cyf. yn cynnig hyfforddiant perthnasol i'r staff a thrwy adolygiadau rheolaidd mae ganddo ymrwymiad parhaus i adnabod a bodloni anghenion hyfforddi wrth iddynt godi.
An effective approach combining the very best of Solution-focused techniques and narrative therapy approaches.
A strengths-based programme providing an effective framework and a Wellbeing structure for school-aged youngsters.
An organisation improvement programme that provides an architecture for increased organisational capacity.
Facilitators are equipped to implement the Wellbeing programme within their team or organisation - building capacity.
Because every second counts we respect time. It costs money, resources and our energy. Time is the most precious commodity.


Cyrsiau & Hyfforddiant